Tesla Energy

Tesla Energy
Enghraifft o'r canlynolcwmni, brand, busnes, sefydliad, corfforaeth Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Rhiant sefydliadTesla Edit this on Wikidata
CynnyrchTesla Powerpack, Powerwall, Tesla Solar Roof, Panel solar, llechi solar Edit this on Wikidata
PencadlysFremont Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tesla.com/de_de/energy Edit this on Wikidata

Tesla Energy Operations, Inc. yw is-adran ynni glân Tesla, Inc. sy'n datblygu, cynhyrchu, gwerthu a gosod systemau cynhyrchu ynni solar ffotofoltäig, cynhyrchion batris storio ynni ac ati i gwsmeriaid.

Sefydlwyd yr adran ar 30 Ebrill 2015, pan gyhoeddodd Prif Swyddog Gweithredol Tesla sef Elon Musk, y byddai'r cwmni'n cymhwyso'r dechnoleg batri a ddatblygodd ar gyfer ceir trydan i system storio ynni cartref o'r enw Powerwall. Yn Nhachwedd 2016, prynodd Tesla SolarCity, mewn cytundeb US$2.6 biliwn, gan ychwanegu cynhyrchu ynni solar at fusnes Tesla Energy. Roedd y fargen hon yn ddadleuol; ar adeg y caffaeliad, dywedwyd fod SolarCity yn wynebu problemau ariannol.

Mae cynhyrchion cynhyrchu pŵer presennol y cwmni'n cynnwys paneli solar (a weithgynhyrchir gan gwmnïau eraill ar gyfer Tesla), to solar Tesla (Tesla Solar Roof; system llechi solar), a gwrthdröydd solar Tesla. Mae'r cwmni hefyd yn gwneud system storio ynni ar raddfa fawr o'r enw Megapack . Yn ogystal a hyn, mae Tesla'n datblygu meddalwedd i gefnogi ei gynnyrch.

Yn 2022, defnyddiodd y cwmni systemau ynni solar a oedd yn gallu cynhyrchu 348 megawat (MW), cynnydd o 1% dros 2021, a defnyddio 6.54 gigawat-oriau (GWh) o gynhyrchion batris storio ynni, cynnydd o 62% dros 2021. Cynhyrchodd yr adran $3.91 biliwn mewn refeniw ar gyfer y cwmni yn 2022, cynnydd o 40% dros 2021.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search